Lleoliad:
Hybrid - Ystafell Bwyllgora 3, Senedd a
fideogynadledda drwy Zoom
Dyddiad: Dydd Llun, 12 Mehefin 2023
Amser:
13.30 -
15.51
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/13370
------
Categori |
Enwau |
Aelodau o’r Senedd: |
Huw Irranca-Davies AS (Cadeirydd) Alun Davies AS James Evans AS Peredur Owen Griffiths AS |
Tystion: |
|
Staff y Pwyllgor: |
P Gareth Williams (Clerc) Sarah Sargent (Ail Glerc) |
1 Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau
Ni chafwyd ymddiheuriadau na dirprwyon.
2 Sesiwn dystiolaeth gyda Swyddfa’r Farchnad Fewnol
Cafodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Swyddfa’r Farchnad Fewnol.
3 Cytundeb Cysylltiadau Rhyngsefydliadol
3.1 Gohebiaeth gan y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad: Y Grŵp Rhyngweinidogol ar Etholiadau a Chofrestru
Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad.
3.2 Gohebiaeth gan y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd a’r Gweinidog Newid Hinsawdd Grŵp Rhyngweinidogol ar yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig
Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Gweinidog.
3.3 Datganiad ysgrifenedig a gohebiaeth gan y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd: Gorchymyn Bwrdd Datblygu Amaethyddiaeth a Garddwriaeth (Diwygio) 2023
Nododd y Pwyllgor y Datganiad Ysgrifenedig a’r llythyr gan y Gweinidog.
3.4 Datganiad Ysgrifenedig a gohebiaeth gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Rheoliadau Gofal Iechyd (Trefniadau Rhyngwladol) (Ymadael â'r UE) 2023
Nododd y Pwyllgor y Datganiad Ysgrifenedig a’r llythyr gan y Gweinidog.
3.5 Datganiad Ysgrifenedig a gohebiaeth gan Weinidog yr Economi: Fforwm Gweinidogol ar gyfer Masnach
Nododd y Pwyllgor y Datganiad Ysgrifenedig a’r llythyr gan y Gweinidog. Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at y Gweinidog i dderbyn cynnig y Gweinidog i rannu gwybodaeth am yr Adran dros Fusnes a Masnach â’r Pwyllgor.
4 Papurau i'w nodi
4.1 Tystiolaeth ysgrifenedig a gyflwynwyd gan Sefydliad Bevan i'r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg a'r Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol: Bil Mudo Anghyfreithlon
Nododd y Pwyllgor y dystiolaeth ysgrifenedig.
4.2 Gohebiaeth gan y Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant: Amgylchedd Bwyd Iach
Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Dirprwy Weinidog a chytunodd i ysgrifennu at y Dirprwy Weinidog i ofyn am eglurhad ar nifer o faterion yn dilyn datganiad y Dirprwy Weinidog ar 27 Mehefin ac yn amodol ar y datganiad hwnnw.
5 Gohebiaeth yn ymwneud â Chanllawiau Statudol Llywodraeth Cymru ar Addysg Ddewisol yn y Cartref
Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth.
6 Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(vi) a (ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod
Derbyniwyd y cynnig.
7 Sesiwn dystiolaeth gyda Swyddfa’r Farchnad Fewnol: Trafod y dystiolaeth
Trafododd y Pwyllgor dystiolaeth a gafwyd gan Swyddfa’r Farchnad Fewnol.
8 Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Ardrethu Annomestig
Trafododd y Pwyllgor yr adroddiad drafft a chytunodd arno.
9 Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol a Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol Llywodraeth Cymru (Memorandwm Rhif 2) ar y Bil Mudo Anghyfreithlon
Trafododd y Pwyllgor yr adroddiad drafft a chytunodd i drafod rhai mân newidiadau y tu allan i’r cyfarfod.
10 Memoranda Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol (Memorandwm Rhif 5) ar y Bil Diogelwch Ar-lein
Trafododd y Pwyllgor Femorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol (Memorandwm Rhif 5) ar y Bil Diogelwch Ar-lein, a chytunodd i drafod ei adroddiad drafft yn ystod cyfarfod yn y dyfodol.
11 Cytundebau rhyngwladol
Nododd y Pwyllgor y cytundebau rhyngwladol a ganlyn:
Cytunodd y Pwyllgor i drafod ei adroddiad drafft ar y cytundebau mewn cyfarfod yn y dyfodol. Cytunodd y Pwyllgor hefyd i dynnu sylw pwyllgor perthnasol yn y Senedd at y cytundeb rhyngwladol cyntaf.
12 Trafod gohebiaeth yn ymwneud â Chanllawiau Statudol Llywodraeth Cymru ar Addysg Ddewisol yn y Cartref
Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth yn ymwneud â Chanllawiau Statudol Llywodraeth Cymru ar Addysg Ddewisol yn y Cartref.
Made Negative Resolution Instruments
Made Negative Resolution Instruments
Affirmative Resolution Instruments